Cipio Eiliadau yn rhan o Wythnos Gwydr Fenis

05.09.2018

Rwy'n hynod o falch i gyhoeddi bydd Cipio Eiliadau yn cael ei arddangos mewn sioe unigol ynghyd a darluniau, ffilm a ffotograffau yn rhan o Wythnos Gwydr Fenis 9fed -16eg o Fedi 2018, mewn partneriaeth gyda VeniceArtFactory, Fieldwork a Chanolfan Grefft Rhuthun. Bydd yr arddangosfa mewn lleoliad canolog; Campo San Stefano, ar droed y bont Accademia.

Rydw i yn ddiolchgar iawn i Celfyddydau Rhyngwladol Cymru am arianu'r prosiect ac hefyd i Specialist Precast Products am fy noddi.

Art of Glass

07.04.2018

Mae darn o fy ngwaith Refelcted Spaces yn rhan o arddangosfa Art of Glass yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban, Caeredin. Mae'r arddangosfa yn archwilio gwiath gwydr gan artistiaid blaenllaw ym Mhrydain heddiw, bydd yn rhedeg tan Medi 16eg 2018. Fe'i cyflwynir mewn partneriaeth a Canolfan Genedlaethol ar gyfer Crefft a Dylunio ble fydd yr arddangosfa yn teithio ym mis Hydref.

Darllenwch fwy am yr ymagwedd a'r ymchwil a wnaed gan y curaduron yma

Gwobr Cymru Greadigol

24.01.2017

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol wedi ei ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru yn ddiweddar. Mae fy mhrosiect wedi ei rannu yn dri rhan o ymchwil ac archwilio, gan ganolbwyntio ar berthnasedd, pensaerniaeth a dylunio. Mi fydd yn rhoi cyfle i mi edrych ar raddfa a chyfyngiadau hefyd ymchwilo'r posibiliadau o gydweithio ar raddfa fawr.

Dyfarniadau Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru

Taith: i Jan Morris

01.10.2016

Mae gen i gyfres o ffotograffau yn rhan o arddangosfa arbenning ym Mhlas Glyn-y-Weddw, sydd yn ymateb i fywyd a gwaith hynod Jan Morris ar achlysur ei phen-blwydd yn 90 oed. Bydd ymlaen o Hydref 15fed - Rhagfyr 24ain 2016.

Mwy o wybodaeth yma

Cipio Eiliadau : Gofodau wedi'u Hadlewyrchu yn BayArt

26.08.2016

Bydd Cipio Eiliadau yn cael ei arddangos yn BayArt, Caerdydd, Medi 10fed - 24ain ynghyd a gwaith gan y penseiri Rhian Thomas, Dow Jones, HASSELL, Victoria Coombs a Wayne Forster, bydd yr arddangosfa yn archwilio ysgogiadau amgylcheddol ac yn cipio eiliadau diflanedig. Cefnogir gan Ganolfan Grefft Rhuthun mewn partneriaeth â Chomisiwn Dylunio Cymru a BayArt.

BayArt

Comisiwn Dylunio Cymru

Canolfan Grefft Rhuthun

Transition : Arddangosfa Gwydr Alumni CCA

23.08.2016

Bydd darn o fy ngwaith yn cael ei gynnwys mewn arddangosfa o'r cyfoeth o dalent sydd wedi dod i'r amlwg o'r adran Gwydr, coleg Celf Caeredin dros y blynyddoedd. Medi 16eg - 30ain 2016 yn y Llys Cerflunio, Coleg Celf Caeredin.

ECA Transition

Ffilm fer - Trosolwg o fy ngwaith

21.12.2015

Film fer wedi ei greu gan Eilir Pierce yn rhoi trosolwg ar fy ngwaith, wedi ei gynhyrchu i gydfynd gyda'r Arddangosfa Deithiol gan Ganolfan Grefft Rhuthun Cipio Eiliadau.

Gellir ei weld yma

Canolfan Grefft Rhuthun

Arddangosfa Deithiol - Cipio Eiliadau

25.11.2015

Bydd Cipio Eiliadau yn cael eu dangos ynghyd â rhai darnau newydd fydd yn cael ei arddangos yn Oriel 2, Canolfan Grefft Rhuthun, 28 Tachwedd - 4 Ionawr. Bydd yr arddangosfa yn teithio i Oriel Mission, Abertawe ac yn rhedeg rhwng 23 Ionawr - 13 Mawrth 2016.

Canolfan Grefft Rhuthun

Oriel Mission

Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio

04.08.2015

Braint a blachder yw medru cyhoeddi fy mod wedi ennill y Fedal Aur am Grefft a Dyluino yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a'r Gororau am fy ngwaith Cipio Eiliadau.

Me film fer gan Pete Telfer o fy ngwaith i weld yma - Artpalyer TV

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Comisiwn newydd wedi ei osod

05.07.2015

Mae comisiwn newydd wedi cael ei osod yn yr ystafell aros yn y Ganolfan Iechyd newydd yn Llangollen. Comisiynwyd y gwaith gan y GIG Betsi Cadwaladr, Celfyddydau mewn Iechyd. Cafodd y pum panel persbecs eu sgrin-brintio a maent yn seiliedig ar yr amgylchedd o gwmpas y ganolfan.

Lluniau gosod

Enillwyr Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr 2015

02.07.2015

Mewn partneriaeth gyda Phoenix Optical Glass, rydym wedi ennill y Wobr Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr gan Celf a Busnes Cymru! Cefais y cyfle i fod yn artist preswyl gyda'r cwmni, gwnaeth cefnogaeth y busnes ganiatau i mi ddatblygu fy ymarfer artistig a chwblhau corff newydd o waith. Cafodd y bartneriaeth ei ymestyn ymhellach gan brosiect cymunedol ar gyfer plant a phobl hŷn yn Sir Ddinbych, gan roi cyfle iddynt ddeall a defnyddio gwydr mewn ffordd greadigol.

Phoenix Optical Technologies Ltd.

Celf a Busnes Cymru

Dethol ar gyfer New Glass Review 36

19.04.2015

Rywf wrth fy modd fod darn o gyfres Cipio Eiliadau wedi ei ddethol ar gyfer cyhoeddiad o New Glass Review 36 eleni gan Amgueddfa Gwydr Corning.

Amgueddfa Gwydr Corning

Celf & Buses Cymru - CultureStep

05.01.2015

Mewn partneriaeth gyda Phoenix Optical Technologies Ltd, rydw i wedi derbyn buddsoddiad CultureStep gan Celf & Busness Cymru i redeg prosiect allgymorth i blant a phobl hŷn yn Sir Ddinbych, gan roi cyfle i ddysgu am a defnyddio gwydr mewn ffordd creadigol. Bydd y prosiect yn cael ei ddogfennu ar fy llith Instagram.

Celf & Busness Cymru

Phoenix Optical Technologies

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru - Gwobr Teithio Biennale Fenis

02.12.2014

Wrth fy modd wedi derbyn Gwobr Teithio gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i ymweld a'r Beinnale yn Fenis ym Mis Mai 2015.

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Cymru yn Fenis

Treiddio'r Wyneb

24.07.2014

Byddaf yn cymeryd rhan yn Mreswyliad Treiddio'r Wyneb yng Nghanolfan Grefft Rhuthun 16-17 Awst, yng Ngofod Project A & B. Byddaf yn trafod fy ngwaith ac yn dangos enghreifftiau o fy ymchwil gweledol, darnau amrywiol o wydr gyda gwahanol dechnegau wedi'u cymhwyso, maoquettes a modelau.

Canolfan Grefft Rhuthun

Artist Preswyl Canolfan Grefft Rhuthun

02.07.2014

Rydw i newydd ddechrau cyfnod preswyl 3 mis yng Ngofod Prosiect A&B yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, yn rhan o fy nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru . Byddaf yn casglu fy ymchwil ac yn chwblhau'r cyfnod cynhyrchu. Byddaf yn cyflwyno cyfres o osodiadau fydd yn defnyddio gwydr i gipio golau a chysgodion ym mis Medi.

Canolfan Grefft Rhuthun

Comisiwn newydd wedi ei osod

12.06.2014

Mae Blodau Bywyd wedi cael ei osod yn y mynedfa newydd Cwadrant Achosion Brys, Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, comisiynwyd gan y GIG Betsi Cadwaladr, Celfyddydau mewn Iechyd. Cafodd y chwe panel persbecs sydd wedi eu sgrîn-brintio eu datblygu o gyfnod preswyl yn Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug , lle cafodd delweddau o blanhigion meddyginiaethol sy'n tyfu yn yr amgylchedd o'n cwmpas eu defnyddio fel sail ar gyfer gwaith creadigol. Yn benodol mae'r dyluniadau yn seiliedig ar y Melyn Mair , Mintys y Dŵr, Troed yr Ebol a'r Farchalan.

Tyfu! - Pop Up! Caeredin

24.07.2013

Bydd Gwydr , Golau a Spce yn cael ei arddangos yn rhan o Grow! yng Ngardd Fotaneg Frenhinol, Caeredin 2il - 25ain o Awst 2013. Trefnwyd gan Pop Up! Caeredin, sefydliad sydd yn dod â chelf i leoedd unigryw ac annisgwyl o fewn y ddinas . Mae'r sioe yn ymwneud â chydnabod ysbryd y ddinas yn ystod tymor yr ŵyl ym mis Awst, ac yn uno artistiaid gwydr gyda chysylltiad i Gaeredin .

ceir mwy o wybodaeth yma

Y Lle Celf

10.07.2013

Mae Ymdeimlad o Le wedi ei ddewis i'w arddangos yn Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Dinbych eleni, 2-10 o Awst, 2013.

Ceir mwy o wybodaeth yma

Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru

04.01.2013

Yn Falch iawn fy mod wedi derbyn grant cynhyrchu unigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru , a fydd yn ariannu ymchwil, datblygiad a chynhyrchiad corff newydd o waith.

Cysgodion a Goleuni

15.11.2012

Bydd Cyfres Cysgodion, Ymdeimlad o Le a Gwydr, Golau a Gofod i'w gweld yn arddangosfa Cysgodion a Goleuni yng Nghanolfa Grefft Rhuthun, 1 Rhagfyr 2012 – 6 Ionawr 2013. Arddangosfa o waith chwe gwneuthurwr yn byw yng Nghymru sy’n eich harwain ni i astudio a gwerthfawrogi newidiadau cynnil mewn ansawdd arwyneb. Yn gweithio gyda serameg, gwydr, tecstilau, arian a charreg, mae pob gwneuthurwr yn ystyried goleuni a sut y gall greu effeithiau ac animeiddio eu gwaith.

Ceir mwy o wybodaeth yma

Cyhoeddiad

Artist Preswyl ECA

26.09.2012

Rwyf newydd ddechrau cyfnod preswyl o 10 mis yn yr Adran Wydr, yng Ngholeg Celf Caeredin. Byddaf yn datblygu corff newydd o waith yn seiliedig ar ymchwil golau a chysgodion.

Biennale Gwydr Prydeinig

23.06.2012

Mae Ymdeimlad o le wedi cael ei ddewis ar gyfer y Biennale Gwydr Prydeinig . Arddangosfa fawr y DU o wydr cyfoes ar y cyd a'r Wyl Rhyngwladol Gwydr, a fydd yn cymeryd lle yn Stourbridge , Awst 24ain - Medi 15fed 2012.

ceir mwy o wybodaeth yma

Gemau Gwydr

13.06.2012

Bydd fy mhanel Game of Light , yn cael ei ddangos yn rhan o'r arddangosfa Gemau Gwydr, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe , 7fed o Orffennaf - 17eg o Fedi 2012, mae hefyd yn rhan o ddigwyddiad ledled y DU a drefnwyd gan Cymdeithas Gwydr Cyfoes . Mae'r darn wedi ei greu o srtingers tryloyw sydd yn caniatau i'r gwyliwr gael cipolwg o'r golau symudol. Yn gyfisol mae'n dod yn gêm o ymgysylltu â rhith, symudiad a golau.

Ceir mwy o wybodaeth yma

New Glass Review 34

19.01.2012

Hynod of falch fod Ymdeimlad o Le wedi cael ei ddewis i'w gynnwys yn New Glass Review 34 , caiff ei gyhoeddi gan Amgueddfa Gwydr Corning, UDA yn hwyrach yn y flwyddyn.

ceir mwy o wybdaeth yma

Cymru yn Fenis

20.04.2011

Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi fy mod wedi fy newis i fod yn rhan o dîm Cymru yn Fenis ym mis Hydref 2011, drwy gymeryd rhan yn y rhaglen Goruchwylio Arbennig . Byddaf yn treulio 7 wythnos yn gweithio ym Mhafiliwn Cymru , lle bydd Tim Davies yn cael ei gynrychioli , ochr yn ochr a chanolbwyntio ar fy ymchwil fy hun , mynd ar drywydd prosiectau newydd a datblygu perthynasau gydag artistiaid a churaduron rhyngwladol.

ceir mwy o wybodaeth yma