Cyfres Cysgodion

Gan ddefnyddio darn o wydr, cafodd dilyniant o gysgodion eu dal a'u cofnodi. Mae'r gyfres yn cynnwys deuddeg blwch unigol wedi eu goleuo gyda LED, gyda phob blwch yn dehongli segment gwahanol o ddilyniant y cysgodion ac yn portreadu syniad o symud a newid. Maent wedi eu creu mewn ffyrdd gwahanol drwy gyfuniad o ffurfiau a thechnegau gwydr; sgwrio â thywod, ffiwsio ac argraffu sgrin.